Ein gwybodaeth ar draws y Deyrnas Unedig – Cymru

3 minute read time.

Dydd Gŵyl Dewi Hapus! Mae diwrnod ein nawddsant ar 1 Mawrth yn gyfle gwych i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Chymru – ein diwylliant, ein bwyd a’n hiaith. Yn y blog hwn, mae ein swyddog cyfathrebu, Suzanne, yn trafod pwysigrwydd darparu deunydd gwybodaeth am ganser yn Gymraeg.

Mae’r blog hwn ar gael yn Saesneg. Hwn yw’r blog cyntaf mewn cyfres a fydd yn cynnwys gwybodaeth benodol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd mwyaf hynafol Ewrop, ac wrth gwrs, mae’n iaith fyw. Mae dros un rhan o bump o boblogaeth Cymru’n medru’r Gymraeg. Wrth deithio o amgylch y wlad, fe glywch chi ddigon o Gymraeg mewn ysgolion ac yn y gweithle, ac mae i’w gweld yn y cyfryngau ac ar-lein hefyd.

Mae’n ofyniad cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gydradd. Er nad oes dyletswydd gyfreithiol ar Macmillan i wneud hyn, mae’n fwriad gennym ddarparu cyfran o’n gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl Pam, Rheolydd Canolfan Gwybodaeth a Chefnogaeth Canser yng Nghymru: ‘Er bod pobl yn siarad Cymraeg a Saesneg yr un fath, pan fod rhywun dan straen – fel yn achos derbyn diagnosis o ganser – emosiwn sydd drechaf. Mae pobl yn troi at eu hiaith gyntaf yn reddfol.’

Gwybodaeth am ganser yn Gymraeg

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n cynnig dros 25 o adnoddau gwybodaeth a chefnogaeth yn Gymraeg, ac maent yn ymwneud ag ystod eang o bynciau:

  • deall canser
  • symptomau canser
  • derbyn diagnosis o ganser
  • mathau o ganser
  • triniaethau canser
  • byw gyda chanser
  • diwedd bywyd.

Gallwch chi lawrlwytho’r adnoddau neu ofyn am gopïau caled o be.macmillan. Os hoffech weld rhestr gyflawn o’r adnoddau, ewch i dudalen Cancer information in your language a dewis Cymraeg.

Yn ôl Pam, ‘Mae’n hanfodol bwysig bod yn medru mynd â thaflen Gymraeg adre neu lawrlwytho un. Mae pobl yn wirioneddol ddiolchgar o fod yn medru darllen y wybodaeth yn eu pwysau ac yn eu mamiaith.’

Gwybodaeth bellach a gwasanaethau cefnogaeth yng Nghymru

Fe welwch lun Pam yn y blog hwn. Pam yw rheolydd Canolfan Gwybodaeth a Chefnogaeth Canser Seren Wib Macmillan yn Ysbyty Maelor, Wrecsam. Mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl, ac mae’n llefarydd angerddol dros ddarparu gwybodaeth amserol a hygyrch yn Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill. Mae’n nod gennym ddarparu Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Canser fel un Pam yn holl brif ysbytai Cymru. Gallwch chwilio am y gwasanaeth agosaf atoch ar ein gwefan.

Ar ben hynny, rydyn ni’n cynnal gwasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth symudol yng Nghymru. Efallai fyddwch chi wedi gweld ein bysys mawr gwyrdd yn eich ardal chi. Yn ogystal â chludo taflenni gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg, mae arbenigwyr gwybodaeth canser ar fwrdd y bysys y gallwch chi gael sgwrs â nhw. Maen nhw’n griw cyfeillgar iawn, felly tro nesaf y gwelwch chi nhw, piciwch draw i ddweud helô.

Cadw mewn cysylltiad â Macmillan yng Nghymru

Am wybodaeth bellach a chefnogaeth, gallwch chi ddilyn Macmillan yng Nghymru yma:


I ddarllen y pynciau eraill sydd wedi bod dan sylw gan dîm gwybodaeth canser Macmillan, ewch i
hafan ein blog. Gallwch chi danysgrifio i dderbyn y blogiau drwy e-bost neu RSS hefyd.

Rydyn ni gyda chi bob cam ar hyd y ffordd
Mae tîm Macmillan yma i helpu. Gall ein harbenigwyr cefnogaeth canser (cancer support specialists) ateb eich cwestiynau, cynnig cefnogaeth neu wrando os ydych chi’n dymuno siarad. Ffoniwch ni yn rhad ac am ddim ar 0808 808 00 00.
Sylwadau? Croeso i chi eu nodi isod (mae angen mewngofnodi).
Cadw mewn cysylltiad Dilynwch dîm gwybodaeth canser Macmillan ar Twitter @mac_cancerinfo

Anonymous